Lleoliad:
Hybrid – Ystafelloedd Pwyllgora 1 a 2 a Chynhadledd Fideo drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 9 Mawrth 2023
Amser:
09.05 -
12.59
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13300
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) James Evans AS Laura Anne Jones AS Ken Skates AS Buffy Williams AS Sioned Williams AS Jane Dodds AS |
Tystion: |
Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Alistair Davey, Llywodraeth Cymru Albert Heaney, Llywodraeth Cymru Sally Jenkins, Cyngor Dinas Casnewydd Taryn Stephens, All Wales Heads of Children’s Services (AWHOCs) Jan Coles, All Wales Heads of Children’s Services (AWHOCs) |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Tom Lewis-White (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Catherine McKeag (Swyddog) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) Sian Hughes (Ymchwilydd) Sian Thomas (Ymchwilydd) |
1 Mynediad at addysg i blant a phobl ifanc anabl - trafod y cwmpas a'r dull gweithredu.
1.1
Cytunodd y Pwyllgor ar y cwmpas
a’r dull gweithredu ar gyfer yr ymchwiliad yn amodol ar y
newidiadau a drafodwyd.
2 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
1.2 Ymddiheurodd Buffy Williams o ran eitemau 1 – 3.
1.3 Croesawodd y
Cadeirydd Jane Dodds AS i’r cyfarfod.
3 Gwasanaethau i blant sydd â phrofiad o ofal: archwilio diwygio radical - sesiwn dystiolaeth 13
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o’r Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS).
3.2 Cytunodd y Gymdeithas i ddarparu rhagor o wybodaeth am ddatblygu cartref plant fferm y Felin Wynt yn Llanfaches.
3.3 Cytunodd y Cadeirydd i unrhyw gwestiynau heb eu gofyn gael eu hanfon ar gyfer ymateb ysgrifenedig.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitem 5, eitem 8 ac eitem 9 ar agenda’r cyfarfod hwn, ac o’r cyfarfodydd cyfan ar 14 Mawrth a 22 Mawrth.
4.1 Derbyniwyd y
cynnig.
5 Gwasanaethau i blant sydd â phrofiad o ofal: archwilio diwygio radical - trafod y dystiolaeth.
5.1 Bu'r
Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn
dystiolaeth flaenorol.
6 Gwasanaethau i blant sydd â phrofiad o ofal: archwilio diwygio radical - sesiwn dystiolaeth 14
6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog
6.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i roi adborth i'r Pwyllgor gan bobl ifanc a oedd wedi cael y cymhorthdal incwm sylfaenol.
7 Papurau i'w nodi
7.1 Cafodd y
papurau eu nodi.
8 Gwasanaethau i blant sydd â phrofiad o ofal: archwilio diwygio radical - trafod y dystiolaeth.
8.1 Bu'r
Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn
flaenorol.
9 Trafod y gwahoddiad i’r Bwrdd Cyflawni a Throsolwg Gweinidogol ar y Cyd
9.1 Trafododd y Pwyllgor y gwahoddiad, a byddai llythyr yn cael ei anfon ar y cyd at Weinidog y Gymraeg ac Addysg a’r Dirprwy Weinidog gyda phenderfyniad y Pwyllgor.